Date: 30/08/2026
By: Ioan Lewis
Carmarthenshire Temporary
Mae Dosbarth yn recriwtio Athrawon Cynradd, Athrawon Uwchradd a Chynorthwywyr i weithio mewn ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn chwilio am weithwyr addysg brwdfrydig ac ymroddedig sydd ag angerdd dros gefnogi dysgwyr a chyfrannu'n gadarnhaol at gymunedau ysgol. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd, gan gynnwys gwaith cyflenwi dydd i ddydd, lleoliadau tymor byr a thymor hir, a rolau llawn amser a rhan-amser.
P'un a ydych yn brofiadol, newydd gymhwyso, yn dychwelyd i'r gwaith neu'n chwilio am eich cyfle nesaf ym maes addysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Pam Dosbarth?
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar
dystysgrif DBS gyfredol sydd wedi'i chofrestru gyda'r Gwasanaeth Diweddaru, neu
fod yn barod i gwblhau gwiriad DBS newydd, a rhaid iddynt fod wedi cofrestru
gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), neu fod yn barod i gofrestru.
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.
Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau
statudol yr Adran Addysg, 'Cadw Plant yn Diogel mewn Addysg'. Rydym hefyd yn
cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i'n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.