Date: 05/09/2026
By: Ioan Lewis
Ceredigion Temporary
Mae Dosbarth yn chwilio am Athrawon Cynradd, Athrawon Uwchradd a Chynorthwywyr brwdfrydig i gefnogi ysgolion ledled Ceredigion.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion ymroddedig sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i addysg a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae cyfleoedd ar gael mewn amrywiaeth o ysgolion cynradd ac uwchradd, o waith cyflenwi hyblyg a lleoliadau tymor byr i rolau tymor hir, rhan-amser a llawn amser.
P'un a ydych yn brofiadol, newydd gymhwyso, yn dychwelyd i'r gweithle neu'n barod am gam nesaf eich gyrfa ym maes addysg, hoffem glywed gennych.
Pam Dosbarth?
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar dystysgrif DBS gyfredol sydd wedi'i chofrestru gyda'r Gwasanaeth Diweddaru, neu fod yn barod i gwblhau gwiriad DBS newydd, a rhaid iddynt fod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), neu fod yn barod i gofrestru.
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg, 'Cadw Plant yn Diogel mewn Addysg'. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i'n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.