Athrawon Uwchradd - Ardal Caerfyrddin


Date: 04/06/2026

By: Ioan Lewis

Carmarthenshire Temporary

£172.80 - £172.80 y dydd / per day

Rydym yn chwilio am Athrawon Uwchradd i weithio yng Nghaerfyrddin sy’n frwdfrydig, llawn egni ac yn ysbrydoledig; unigolion sy’n gallu ysgogi dysgwyr ac ychwanegu’n gadarnhaol at fywyd yr ysgol.

Gyda phresenoldeb cryf mewn mwy na 80 o ysgolion ar draws de Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, rydym yn arbenigo mewn darparu staff addysgu dwyieithog o’r safon uchaf i gefnogi anghenion ysgolion Cymraeg. 

Pam Dosbarth? 
  • Cyfraddau cyflog ardderchog.
  • Ennill profiad gwerthfawr.
  • Creu cysylltiadau ag ysgolion.
  • Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG.
  • Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
  • Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor. 
  • Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. 
  • Cefnogi busnes lleol.

Mae'r swydd hon yn amodol ar:- 

  • Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol. 
  • Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy. 
  • Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu. 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol. 
  • Sgiliau trefnu gwych. 
  • Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un. 
  • Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno. 
  • Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG. 
  • Dau wiriad tystlythyr proffesiynol. 

Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg, 'Cadw Plant yn Diogel mewn Addysg'. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i'n holl weithwyr. 

Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.

Apply now
Apply now

Announcements

Work Based qualifications

29/04/2024
Read more

Datblygiad CPD - Cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth lefelau 2 i 5

06/04/2022
Read more

CPD Development- Leadership and Management Quals levels 2 to 5

06/04/2022
Read more

CPD Development-Level 3 Specialist Support for Teaching and Learning in Schools

06/04/2022
Read more

×
"We'd love to hear from you!"