Carmarthenshire Temporary
£172.98 - £172.98 y dydd / per day
Rydym yn chwilio am Athro/Athrawes TG/Gwyddor Cyfrifiaduron sy’n siarad Cymraeg i ymuno ag ysgol uwchradd yn Ardal Caerfyrddin.
Mae’r rôl hon yn cychwyn ar ôl Hanner Tymor mis Chwefror ac yn parhau tan diwedd tymor yr hâf. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar gefndir cryf mewn Gwyddor Cyfrifiaduron, gyda phrofiad o ddysgu TGAU a Lefel A, ac yn angerddol am ddarparu gwersi o ansawdd uchel, difyr a sbardunol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y swydd yn cynnig cyfle i ysbrydoli a chefnogi cynnydd disgyblion, datblygu eu sgiliau cyfrifiadurol, a chyfrannu’n gadarnhaol i fywyd ysgol leol.
Gofynion Ymgeisydd ar gyfer y Swydd:
- Wedi corfestru gyda Cyngor Gweithlu Addysg (EWC)
- Gyda gradd TG neu Gwyddor Cyfrifiaduron
- Yn siarad Cymraeg
Pam Dosbarth?
- Cyfraddau cyflog ardderchog
- Ennill profiad gwerthfawr
- Creu cysylltiadau ag ysgolion
- Cyfarwyddyd gyrfa unigol a chefnogaeth ANG
- Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Dewis o waith yn eich ardal leol, boed hynny'n gyflenwad dyddiol, swyddi tymor byr, hirdymor.
- Mae staff ein swyddfa yn falch ac yn angerddol am ein hiaith Gymraeg. Mae pob aelod o staff ein swyddfa yn siarad Cymraeg felly mae croeso i chi gysylltu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
- Cefnogi busnes lleol
Mae’r swydd hon yn amodol ar:-
- Y wybodaeth a'r gallu i addysgu'r cwricwlwm cenedlaethol.
- Angerdd am addysgu a'r gallu i fod yn gyfeillgar, hyblyg ac yn ddibynadwy
- Dulliau addysgu amrywiol y gellir eu haddasu
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau trefnu gwych
- Cofrestriad DBS neu Wasanaeth Diweddaru cyfredol neu'r parodrwydd i gwblhau un.
- Bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg neu fod yn barod i ymuno.
- Bod yn athro cymwysedig (SAC) neu ANG.
- Dau wiriad tystlythyr proffesiynol
Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Rydym yn cynnal gwiriadau diogelu ar bob gweithiwr yn unol â chanllawiau statudol yr Adran Addysg ‘Cadw Plant yn Ddiogel mewn Addysg’. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant diogelu ar-lein AM DDIM i’n holl weithwyr.
Cliciwch y botwm ‘gwneud cais nawr’ a chwblhewch y ffurflen wybodaeth a fydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad. Neu os bod well gennych gysylltu dros y ffôn, ffoniwch 01559361212 a siaradwch gyda ei'n ymgynghorwyr lleol.